1 Tair gwragedd a'u gwedd fel
gwawn
2 a gafas yn gwbl gyfiawn
3 pryd cain pan fu'r damwain da
4 a roes Duw nef i Efa
5 Cyntaf o'r tair disclaerloew
6 ai cafas ehudras hoew
7 Polixena ferch Breia
8 gwaisc o grair yn gwisco gra
9 Yr ail fu ddiodemaf
10 eiliw goleu-draul haul haf
11 Trydedd fun ail Rhun y rhawg
12 fu Elen feinwen fannawg
13 [17v] Yr hon a beris cyffro
14 a thrîn rhwng Groeg a Thro
15 pedwaredd ddisalwedd serch
16 Y gain eglurfain glaerferch
17 Yn dyfod yn deg ddisseml
18 nwyf gwyr aur dymyr i'r deml
19 A lluoedd arni'n edrych
20 ar lawr disgleirfawr wawr wych
21 A myfi doeth ym ofeg
22 A ymofyn pwy'r dyn deg?
23 chwaer yw honn lonn oleu-lawroer
24 Vndad ir lleuad ar lloer
25 A nith i des ysplennydd
26 Ai mam oedd wawr ddinam ddydd
27 Ac o Wynedd pann eddyw
28 Ac wyr i haul awyr yw
29 Nid gwen gwraig ar a adwaen
30 Nid gwyn calch ar siambr falch faen
31 Nid gwenn gwelwdonn anghyfuwch
32 Nid gwyn ewyn llynn na lluwch
33 Nid gwyn pryd dilis disglaer
34 wrth bryd gwyn fy myd myn Mair
35 Cyngwystl awnawn heb gyngor
36 lliw tonn geirw pann feirw ar for
37 Nid byw'r Criston credadyun
38 a gai le bai ar liw bun
39 Onid ei bod yn glodgamp
40 duw'n fach yn loewwach nor lamp
41 Na fid rhyfedd gan Gymro
42 alw bun o'r eiliw y bo
43 poed ar gyllell hirbell hon
44 Y cordder tal y galon
45 Ai cymerai yn hyfryd
46 a maddau bun meddu byd
47 pa fwyaf fai fynghyfoeth
48 am canmawl cynhwynawl coeth
49 fwy fwy y clwyfai ar naid
50 cof ynof cywiw f'enaid
51 pa les i minnau wyrda
52 maddau 'r dyn a meddu'r da
53 Nid oes obaith y leni
54 I'r dyn a fo hyn no hi
dd' ap Gwilym